Gwybodaeth Ynglŷn ag Ymweld

Cysylltu â Ni

Rhif Ffôn
01495 752036

Cyfeiriad

Amgueddfa Torfaen, Adeiladau’r Parc, Pont-y-pŵl, NP4 6JH

E-Bost
torfaenmuseum@outlook.com

Phrisiau

Mynediad nawr
AM DDIM

Amserau Agor

Dydd Mawrth
10am – 12 canol dydd

Dydd Mercher
10am – 4pm

Dydd Sadwrn
1pm -4pm

Caffi

Gan weini te, coffi a chacennau, mae’r siop goffi yn Amgueddfa Torfaen yn cynnig awyrgylch cartrefol a chlyd, lle i fwynhau sgwrs gyda ffrindiau. Ar ddyddiau cynhesach, beth am dreulio amser allan yn ein clos neu o dan fwa gorchuddiol y bloc stablau? Ac i’r rhai sydd heb amser i aros am eiliad, beth am alw heibio a chydio mewn paned i fynd ar eich taith.

Mae’r siop goffi ar agor yn ystod oriau agor yr amgueddfa. Nid yw’n gweini ar ôl 3.30pm.

Dod o Hyd i Ni

Mae’r Amgueddfa wedi ei lleoli yng nghanol tref Pont-y-pŵl, ar Park Road.
Mynedfa: what3words ///acting.full.stress

Mae’r maes parcio rhad ac am ddim wedi’i leoli ar y dde ychydig ar ôl croesi’r bont, Pont ap Hywel, tu ôl i’r Amgueddfa, drwy faes parcio Sight Cymru.
Maes Parcio: what3words ///star.caves.spot

Ar Fws

Mae gwasanaeth bysiau lle a rhanbarthol da ym Mhont-y-pŵl. O’r tu allan i’r ardal leol gallwch gyrraedd yr Amgueddfa o Gaerdydd, Cwmbrân, Y Fenni neu Henffordd trwy gymryd y gwasanaeth X3. Mae gwasanaeth X24 yn rhedeg o Gasnewydd i Flaenafon, gan stopio ym Mhont-y-pŵl yn rheolaidd. I gael gwasanaethau bws eraill mae yna wybodaeth ar dudalen we Traveline Cymru, neu gallwch eu ffonio ar 0871 200 22 33.

O’r orsaf fysiau ym Mhont-y-pŵl, trowch i’r dde a cherdded ar hyd y brif stryd, i lawr yr allt nes cyrraedd cylchfan fechan. Oddi yno, cadwch i’r dde a chroesi’r bont yna dilynwch y ffordd goblog i fyny at fynedfa flaen yr Amgueddfa.

Check out the Stagecoach website for more information and timetables.

Ar Drên

Mae gwasanaethau trên i Bont-y-pŵl yn gyfyngedig, a’n gorsaf agosaf yw Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd. Mae gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Casnewydd a’r Fenni yn stopio yn yr orsaf tua bob 2 awr. Mae gwefan National Rail yn lle da i ddechrau cynllunio’ch taith.

O’r orsaf, mae tipyn o daith gerdded i’r Amgueddfa. Bydd angen i chi gerdded i fyny’r ffordd fynediad at heol fawr Y Dafarn Newydd. Trowch i’r dde a dilyn y ffordd i’r gylchfan fach ac oddi yno, cymerwch y troad cyntaf, gan ddilyn y ffordd i lawr yr allt. Ar y gwaelod fe welwch giatiau gwyrdd mawr addurnedig Parc Pont-y-pŵl. Nawr dilynwch y llwybr drwy’r parc, heibio Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl ac i fyny i’r pen arall lle y gwelwch lôn sy’n arwain y tu ôl i Dŷ Parc (gwreiddiol) Pont-y-pŵl ac yn syth i Amgueddfa Torfaen.

Check out Transport for Wales website for more information and timetables.

Car

Use NP4 6JH in your SAT NAV. what3words ///star.caves.spot

O Gasnewydd a’r dwyrain – Dilynwch yr A4042 heibio Cwmbrân, gan ddilyn yr arwyddion am Bont-y-pŵl. Cymerwch yr ail droad ar gylchfan KFC/MacDonalds, fel y cyfarwyddwyd. Dilynwch yr A472 i mewn i Bont-y-pŵl, a fydd yn eich arwain at gyfres o dair cylchfan. Cymerwch yr ail droad ar y gylchfan gyntaf, y trydydd troad ar y gylchfan nesaf ac yna’r ail droad ar y drydedd a’r olaf o’r cylchfannau. Bydd hyn yn eich arwain i Commercial Street, prif stryd Pont-y-pŵl. Dilynwch yr heol drwy’r dref nes bydd yn gostwng i lawr i gylchfan arall. Cymerwch y trydydd troad, ewch dros y bont a throi i’r dde ar y gornel, i’r llwybr coblau. Mae ein maes parcio yn syth ar y dde.

O’r Fenni a Brynbuga – Ewch am yr A4042, gan ddilyn yr arwyddion i Bont-y-pŵl. Ewch yr holl ffordd o amgylch cylchfan fawr MacDonalds/KFC, gan gymryd y pedwaredd troad i ymuno âr A472. Bydd hyn yn eich arwain at gyfres o gylchfannau. Cymerwch yr ail droad ar y gylchfan gyntaf, y trydydd troad ar y gylchfan nesaf ac yna’r ail droad ar y drydedd a’r olaf o’r cylchfannau. Bydd hyn yn eich arwain i Commercial Street, prif stryd Pont-y-pŵl. Dilynwch yr heol drwy’r dref nes bydd yn gostwng i lawr i gylchfan arall. Cymerwch y trydydd troad, ewch dros y bont a throi i’r dde ar y gornel i’r llwybr coblau. Mae ein maes parcio yn syth ar y dde.

Hygyrchedd

Mae’r Amgueddfa yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae gennym fynedfa bwrpasol â ramp, lifft sy’n gwasanaethu pob llawr a chyfleusterau tai bach i bobl anabl ar y llawr gwaelod.

Mae parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ar flaen yr Amgueddfa, a hynny am hyd at ddwy awr.

Mae staff yr Amgueddfa’n gweithio i sicrhau bod yr hyn a arddangosir yn yr amgueddfa yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr ac yn fwy ystyriol ohonynt, ac rydym yn awyddus i gynnwys unrhyw unigolion neu grwpiau sydd â mewnwelediad i fyw gydag anabledd neu nam ar y synhwyrau.

Am gopi o ddatganiad polisi mynediad llawn yr Amgueddfa, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Amserau Agor

Dydd Mawrth
10am - 12 canol dydd

Dydd Mercher
10am - 4pm

Dydd Sadwrn
1pm -4pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419