Cyfrannu

Cyfrannu

A ninnau’n elusen gofrestredig, mae Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen yn croesawu unrhyw gyfraniad, bach neu fawr. Mae eich cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, a dyma rhai enghreifftiau o’r ffyrdd y gall eich cyfraniad ein helpu.

  • Mae arian yn ein helpu i gadw a gofalu am y gwrthrychau hanesyddol sydd yn ein gofal
  • Mae cyllid yn mynd tuag at ein prosiectau allgymorth ac addysg yn y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid lleol i gynnig digwyddiadau gwerth chweil a diddorol i wella lles
  • Mae’n ein helpu i gefnogi artistiaid lleol trwy arddangosfeydd a gweithdai
  • Mae’n ein cynorthwyo i gynnal a chadw ein stablau o’r oes Sioraidd, yr adeilad sy’n gartref i’r Amgueddfa a’i chasgliadau
  • Mae’n ariannu hyfforddiant i wirfoddolwyr ddarparu addysg barhaus a chyfleoedd dysgu gydol oes i gymunedau yn Nhorfaen

Ffurflen Rhoddion

Name(Required)

Cyfrannu Gwrthrych

Mae Amgueddfa Torfaen wedi llwyddo i ddatblygu ei chasgliadau diolch i’r gwrthrychau y rhoddwyd yn hael gan bobl yn y gymuned. Mae’r eitemau hyn naill ai’n cael eu harddangos neu eu storio, lle gallant gyfrannu at ymchwil a dysgu yn y dyfodol, gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i hyrwyddo addysg. Bydd pob gwrthrych, sy’n cael ei arddangos neu ei storio, yn parhau i gael gofal a’i wneud yn hygyrch ar gais.

A oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech chi ei gyfrannu?

Sylwch nad ydym yn derbyn rhoddion digymell. Bydd yr eitemau hyn yn cael eu dychwelyd i’r rhoddwr.

Os hoffech gyfrannu eitem, cysylltwch â ni’n gyntaf gyda gwybodaeth am y gwrthrych(au). Gallwch wneud hyn naill ai drwy e-bost ar torfaenmuseum@outlook.com, dros y ffôn ar 01495 752036, neu fe allwch ysgrifennu at Guradur yr Amgueddfa, Amgueddfa Torfaen, Adeiladau’r Parc, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6JH. Os ydych chi’n medru anfon lluniau, byddai hyn o gymorth mawr i ni.

Rydym yn casglu deunyddiau sydd â chyswllt cryf i hanes Torfaen, rhai sydd:

  • Yn ymwneud â blaenoriaethau casglu’r Amgueddfa fel y’u nodir yn ein Polisi Datblygu Casgliadau (copi ar gael ar gais)
  • Mewn cyflwr da
  • Â tharddiad da, stori y tu ôl iddynt a gwybodaeth gyd-destunol, megis cyswllt ag unigolyn, digwyddiad neu adeilad lleol

Yn anffodus, ni fedrwn dderbyn popeth a gynigir i’r Amgueddfa am y rhesymau a ganlyn:

  • Mae yna ddigon o enghreifftiau eisoes yn y casgliad
  • Byddai’r eitem yn fwy perthnasol i faes casglu Amgueddfa arall
  • Nid oes digon o wybodaeth am yr eitem
  • Nid yw’r eitem yn berthnasol i hanes Torfaen
  • Mae’r eitem mewn cyflwr gwael
  • Nid yw’r eitem yn gweddu i Bolisi Datblygu Casgliadau’r Amgueddfa.

Mae pob eitem sy’n cael ei chynnig yn cael ei hystyried yn ofalus gan y tîm curadurol mewn perthynas â’n polisi casglu a’n casgliadau presennol. Byddwn yn cysylltu â chi i naill ai dderbyn neu wrthod eich cynnig.

Os hoffech roi gwybod am ddarganfyddiadau deunydd archeolegol, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau De Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am adrodd am ddarganfyddiadau archeolegol a manylion cyswllt llawn ar gael ar wefan y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy.

Tel: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Park Buildings,
Pontypool,
Torfaen,
NP4 6JH

Tuesday

10am - 12 noon

 

Wednesday

10am - 4pm

 

Saturday

1pm - 4pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Registered Charity Number: 507419