Beth Sy’ Mlaen
Darlithoedd Cymdeithas Hanes Lleol Pont-y-pŵl
Mae Cymdeithas Hanes Lleol Pont-y-pŵl a sefydlwyd ym 1970, yn ceisio ymgysylltu â phobl o bob oed er mwyn annog diddordeb yn hanes Pont-y-pŵl a’r cyffiniau.
Gan gydweithio gydag Amgueddfa Torfaen, mae’r Gymdeithas yn cynnal cyfres o ddarlithoedd yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd, a hynny yn Oriel Barker Gallery. Mae’r holl ddarlithoedd yn dechrau am 1.45pm ac yn parhau am tua awr, gyda lluniaeth i ddilyn. Mae tocynnau’n £3 i’r rhai nad ydynt yn aelodau.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ar: pontypool-lhs@outlook.com
Grŵp Celf Brws
Gan arbenigo mewn celf brws Tsieineaidd, mae Karen a Sue yn hapus bob amser i groesawu artistiaid newydd i’r grŵp, boed eu bod yn gweithio mewn dyfrlliwiau, olew neu drwy gyfrwng arall.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn paentio, beth am ddod i baentio, rhannu syniadau neu sgwrsio? Mae’r sesiwn rhwng 10.30am a 12.30pm. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Amgueddfa os gwelwch yn dda.
Ffôn: 01495 752036
Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH
Amserau Agor
Dydd Mawrth
10am - 12 canol dydd
Dydd Mercher
10am - 4pm
Dydd Sadwrn
1pm -4pm