Aelodaeth
Aelodaeth
Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen yn elusen gofrestredig sy’n diogelu ac yn casglu arteffactau hanesyddol a diwylliannol Torfaen ar ran y cyhoedd, yn ogystal â chasglu gwaith gan artistiaid lleol. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i lleoli yn Amgueddfa Torfaen ym Mhont-y-pŵl, ochr yn ochr â bron i ugain mil o eitemau.
Wrth ddod yn aelod, bydd eich cefnogaeth a’ch cyfraniad yn helpu i storio, cadw a diogelu ein hanes lleol cyfoethog ac amrywiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy ymuno a ni, bydd eich cyfraniad yn ein cynorthwyo i ofalu am ein casgliadau, gan gynnwys eu cadwraeth, dehongliadau a digwyddiadau newydd, yn ogystal ag adnoddau dysgu ac addysg yn yr Amgueddfa. Yn gyfnewid fe gewch y buddion a ganlyn…
Buddion Aelod
- Mynediad am ddim i holl arddangosfeydd yr Amgueddfa, cylchlythyrau rheolaidd a’r wybodaeth ddiweddaraf am brojectau’r Amgueddfa
- Gostyngiad unigryw o 10% oddi ar lyfrau ac anrhegion penodol yn siop yr Amgueddfa a 10% i ffwrdd yn siop goffi’r Amgueddfa
- Gwahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau arbennig ac achlysuron agor arddangosfeydd yn yr Amgueddfa
- Yr hawl i bleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen i benodi Ymddiriedolwyr newydd
- Mae Aelodau busnes yn cael hyrwyddiad am ddim yng nghylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Amgueddfa
- Mae Aelodaeth busnes a grŵp yn cynnig mynediad am ddim i weithwyr, i’r arddangosfeydd
Ffioedd Aelodaeth
Aelodaeth Unigol | £25 |
Pâr/Teulu | £30 |
Busnes/Grŵp | £75 |
Mae’n costio cyn lleied â 48c yr wythnos i’n cefnogi.
Mae pob aelodaeth yn ddilys o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.
Mae talebau aelodaeth a brynwyd fel anrhegion Nadolig yn ddilys o’r mis Ebrill canlynol.
Beth am sefydlu Rhodd Cymorth wrth Danysgrifio?
Ffurflen Aelodaeth
Ffôn: 01495 752036
Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH
Amserau Agor
Dydd Mawrth
10am - 12 canol dydd
Dydd Mercher
10am - 4pm
Dydd Sadwrn
1pm -4pm